Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 12:28-44

Marc 12:28-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd un o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yno’n gwrando arnyn nhw’n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O’r holl orchmynion i gyd, pa un ydy’r pwysica?” gofynnodd. Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy’r unig Arglwydd. Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl feddwl ac â’th holl nerth.’ A’r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ Does dim un gorchymyn sy’n bwysicach na’r rhain.” “Rwyt ti’n iawn, athro,” meddai’r dyn, “Mae’n wir – un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. Ei garu fe â’r holl galon, ac â’r holl feddwl ac â’r holl nerth sydd ynon ni sy’n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni’n caru’n hunain. Mae hyn yn bwysicach na’r aberthau llosg a’r offrymau i gyd.” Roedd Iesu’n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.” O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo. Pan oedd Iesu wrthi’n dysgu yng nghwrt y deml, gofynnodd, “Pam mae’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd? Dafydd ei hun ddwedodd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ Mae Dafydd yn ei alw’n ‘Arglwydd’! Felly, sut mae’n gallu bod yn fab iddo?” Roedd yno dyrfa fawr wrth eu boddau yn gwrando arno. Dyma rai pethau eraill ddysgodd Iesu iddyn nhw, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. Maen nhw’n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n dduwiol gyda’u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi’n llym.” Eisteddodd Iesu gyferbyn â’r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa’r deml, a gwylio’r dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr. Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron). Dyma Iesu’n galw’i ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae’r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall. Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”

Marc 12:28-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'run yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?” Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd, a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’ Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain.” Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef. Ac y mae ei garu ef â'r holl galon ac â'r holl ddeall ac â'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.” A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, “Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy. Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, “Sut y mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd? Dywedodd Dafydd ei hun, trwy'r Ysbryd Glân: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed.” ’ “Y mae Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?” Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen. Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd. Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.” Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth. A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog. Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy'n rhoi i'r drysorfa. Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”

Marc 12:28-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn. A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe: A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau. A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn ewyllysgar. Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, A’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd mewn swperau; Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy. A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. Canys hwynt-hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.