Marc 12:28-34
Marc 12:28-34 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd un o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yno’n gwrando arnyn nhw’n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O’r holl orchmynion i gyd, pa un ydy’r pwysica?” gofynnodd. Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy’r unig Arglwydd. Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl feddwl ac â’th holl nerth.’ A’r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ Does dim un gorchymyn sy’n bwysicach na’r rhain.” “Rwyt ti’n iawn, athro,” meddai’r dyn, “Mae’n wir – un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. Ei garu fe â’r holl galon, ac â’r holl feddwl ac â’r holl nerth sydd ynon ni sy’n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni’n caru’n hunain. Mae hyn yn bwysicach na’r aberthau llosg a’r offrymau i gyd.” Roedd Iesu’n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.” O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Marc 12:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'run yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?” Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd, a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’ Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain.” Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef. Ac y mae ei garu ef â'r holl galon ac â'r holl ddeall ac â'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.” A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, “Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.
Marc 12:28-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac un o’r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? A’r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o’r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf. A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na’r rhai hyn. A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, Da, Athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe: A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymydog megis ei hun, sydd fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau. A’r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.