Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 12:1-27

Marc 12:1-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Iesu’n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau’i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o’i chwmpas, cloddio lle i wasgu’r sudd o’r grawnwin ac adeiladu tŵr i’w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell. Pan oedd hi’n amser casglu’r grawnwin anfonodd un o’i weision i nôl ei siâr o’r ffrwyth gan y tenantiaid. Ond dyma’r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a’i anfon i ffwrdd heb ddim. Felly dyma’r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw’n cam-drin hwnnw a’i anafu ar ei ben. Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill – cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd. “Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a’i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu’n fawr. Yn y diwedd dyma fe’n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw’n parchu fy mab i.’ “Ond dyma’r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy’n mynd i etifeddu’r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni’r winllan i ni’n hunain.’ Felly dyma nhw’n gafael ynddo a’i ladd a thaflu ei gorff allan o’r winllan. “Beth fydd y dyn biau’r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi’r winllan i rai eraill. Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae’r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’? ” Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e’n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd. Wedyn dyma’r arweinwyr Iddewig yn anfon rhai o’r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod gyda’i gilydd at Iesu. Roedden nhw eisiau ei gael i ddweud rhywbeth fyddai’n ei gael i drwbwl. Dyma nhw’n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni’n gwybod dy fod di’n onest. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti’n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy’n wir. Felly dywed wrthon ni – Ydy’n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain? Ddylen ni eu talu nhw neu ddim?” Ond roedd Iesu’n gweld eu twyll yn iawn. “Pam dych chi’n ceisio nal i?” meddai wrthyn nhw. “Dewch â darn arian i mi.” Dyma nhw’n rhoi un iddo, a dyma Iesu’n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae’r arysgrif yma’n sôn?” “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.” Roedden nhw wedi’u syfrdanu’n llwyr ganddo. Wedyn dyma rai o’r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma’r arweinwyr Iddewig sy’n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi’r weddw a chael plant yn ei le.’ Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb adael plant. Dyma’r ail frawd yn priodi’r weddw, ond buodd yntau farw heb gael plentyn. Digwyddodd yr un peth gyda’r trydydd. A dweud y gwir, er iddyn nhw i gyd briodi’r wraig wnaeth yr un o’r saith adael plentyn ar ei ôl. Yn y diwedd dyma’r wraig yn marw hefyd. Dyma’n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig i’r saith ohonyn nhw!” Atebodd Iesu, “Dych chi’n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi’n gwybod dim byd am allu Duw. Fydd pobl ddim yn priodi pan fydd y meirw’n dod yn ôl yn fyw; byddan nhw yr un fath â’r angylion yn y nefoedd. A bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw! – ydych chi ddim wedi darllen beth ysgrifennodd Moses? Yn yr hanes am y berth yn llosgi, dwedodd Duw wrtho, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’. Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw’r rhai sy’n fyw! Dych chi wedi camddeall yn llwyr!”

Marc 12:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan. Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw. Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu. Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill. Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’ Ond dywedodd y tenantiaid hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.’ A chymerasant ef, a'i ladd, a'i fwrw allan o'r winllan. Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill. Onid ydych wedi darllen yr Ysgrythur hon: “ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?” Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith. Anfonwyd ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid i'w faglu ar air. Daethant, ac meddent wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio â thalu?” Deallodd yntau eu rhagrith, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf? Dewch â darn arian yma, imi gael golwg arno.” A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.” A dywedodd Iesu wrthynt, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Ac yr oeddent yn rhyfeddu ato. Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy'n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi. “Athro,” meddent, “ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, ‘Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.’ Yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a phan fu ef farw ni adawodd blant. A chymerodd yr ail hi, a bu farw heb adael plant; a'r trydydd yr un modd. Ac ni adawodd yr un o'r saith blant. Yn olaf oll bu farw'r wraig hithau. Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.” Meddai Iesu wrthynt, “Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw? Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd. Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn.”

Marc 12:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan. A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw. A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus. A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan. Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl: Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni. A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith. A hwy a anfonasant ato rai o’r Phariseaid, ac o’r Herodianiaid, i’w rwydo ef yn ei ymadrodd. Hwythau, pan ddaethant, a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlon rhoi teyrnged i Gesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi? Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegid. Daeth y Sadwceaid hefyd ato, y rhai a ddywedant nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, O bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had. A’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd. A hwy a’i cymerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiwethaf o’r cwbl bu farw’r wraig hefyd. Yn yr atgyfodiad gan hynny, pan atgyfodant, gwraig i ba un ohonynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. A’r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythurau, na gallu Duw? Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd. Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw efe Dduw’r meirw, ond Duw’r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni’n fawr.