Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 12:1-12

Marc 12:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Iesu’n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau’i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o’i chwmpas, cloddio lle i wasgu’r sudd o’r grawnwin ac adeiladu tŵr i’w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell. Pan oedd hi’n amser casglu’r grawnwin anfonodd un o’i weision i nôl ei siâr o’r ffrwyth gan y tenantiaid. Ond dyma’r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a’i anfon i ffwrdd heb ddim. Felly dyma’r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw’n cam-drin hwnnw a’i anafu ar ei ben. Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill – cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd. “Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a’i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu’n fawr. Yn y diwedd dyma fe’n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw’n parchu fy mab i.’ “Ond dyma’r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy’n mynd i etifeddu’r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni’r winllan i ni’n hunain.’ Felly dyma nhw’n gafael ynddo a’i ladd a thaflu ei gorff allan o’r winllan. “Beth fydd y dyn biau’r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi’r winllan i rai eraill. Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae’r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’? ” Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e’n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd.

Marc 12:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gŵr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd le i’r gwingafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwyr, i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan. A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrasant ymaith yn waglaw. A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall; a hwnnw y taflasant gerrig ato, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrasant ymaith yn amharchus. A thrachefn yr anfonodd efe un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill. Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. Ond y llafurwyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan. Beth gan hynny a wna arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. Oni ddarllenasoch yr ysgrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl: Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd; a rhyfedd yw yn ein golwg ni. A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.