Marc 11:1-10
Marc 11:1-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma nhw’n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu’n dweud wrth ddau o’i ddisgyblion, “Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi’i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o’r blaen. Dewch â’r ebol i mi, ac os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi’n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae’r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’” Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi’i rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd dyma rhyw bobl oedd yn sefyll yno yn dweud, “Hei! Beth dych chi’n ei wneud?” Dyma nhw’n dweud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw, a dyma’r bobl yn gadael iddyn nhw fynd. Pan ddaethon nhw â’r ebol at Iesu dyma nhw’n taflu’u cotiau drosto, a dyma Iesu’n eistedd ar ei gefn. Roedd llawer o bobl yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o’i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi’u torri o’r caeau. Roedd pobl y tu blaen a’r tu ôl iddo yn gweiddi, “Hosanna! Clod i ti!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!” “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi’i bendithio!” “Hosanna! Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
Marc 11:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Ac os dywed rhywun wrthych, ‘Pam yr ydych yn gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.’ ” Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef. Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?” Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd. Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn. Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd. Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi: “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf!”
Marc 11:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd. A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith. A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno. A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd. A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.