Marc 10:47-49
Marc 10:47-49 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” “Cau dy geg!” meddai rhai o’r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi’n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” Dyma Iesu’n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw’n galw’r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae’n galw amdanat ti. Tyrd!”
Marc 10:47-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Safodd Iesu, a dywedodd, “Galwch arno.” A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, “Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat.”
Marc 10:47-49 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf. A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.