Marc 10:28-30
Marc 10:28-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!” “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael brodyr a chwiorydd, mam neu dad, neu blant neu diroedd er fy mwyn i a’r newyddion da yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd – ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw’n derbyn bywyd tragwyddol!
Marc 10:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, “Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di.” Meddai Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl, na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.
Marc 10:28-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl, A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol.