Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 10:26-45

Marc 10:26-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd y disgyblion yn rhyfeddu fwy fyth, ac yn gofyn i’w gilydd, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” Dyma Iesu’n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae’r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw’n gallu gwneud popeth!” Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!” “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael brodyr a chwiorydd, mam neu dad, neu blant neu diroedd er fy mwyn i a’r newyddion da yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd – ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw’n derbyn bywyd tragwyddol! Ond bydd llawer o’r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a’r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.” Roedden nhw ar eu ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu’n cerdded ar y blaen, a’r disgyblion yn ei ddilyn, ond wedi’u syfrdanu ei fod yn mynd yno. Roedd pawb arall oedd yn ei ddilyn yn ofni’n fawr. Aeth Iesu â’r deuddeg disgybl i’r naill ochr eto i ddweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo. “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem,” meddai, “Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’r prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw’n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna’n fy rhoi yn nwylo’r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a’m lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i’n dod yn ôl yn fyw.” Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd. Dyma nhw’n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â’r un bedydd â mi?” “Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi’n yfed o’r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â’r un bedydd a mi, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi. Mae’r lleoedd hynny wedi’u cadw i bwy bynnag mae Duw wedi’u dewis.” Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw’n wyllt gyda Iago ac Ioan. Felly dyma Iesu’n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n gwybod sut mae’r pwysigion sy’n llywodraethu’r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall. Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”

Marc 10:26-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Synasant yn fwy byth, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu all gael ei achub?” Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd, “Gyda dynion y mae'n amhosibl, ond nid gyda Duw. Y mae pob peth yn bosibl gyda Duw.” Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, “Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di.” Meddai Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl, na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol. Ond bydd llawer sy'n flaenaf yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.” Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu'n mynd o'u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn. Cymerodd y Deuddeg ato drachefn a dechreuodd sôn wrthynt am yr hyn oedd i ddigwydd iddo: “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd; a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda.” Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho, “Athro, yr ydym am iti wneud i ni y peth a ofynnwn gennyt.” Meddai yntau wrthynt, “Beth yr ydych am imi ei wneud i chwi?” A dywedasant wrtho, “Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi ag ef?” Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Cewch yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, a bedyddir chwi â'r bedydd y bedyddir fi ag ef, ond eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i'w roi; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer.” Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth Iago ac Ioan. Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, “Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt. Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi, a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb. Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”

Marc 10:26-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig? A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw. Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl, A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf. Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef: Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd: A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd. A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd. A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan. A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi; A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.