Marc 10:17-25
Marc 10:17-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan oedd Iesu ar fin gadael, dyma ddyn yn rhedeg ato a syrthio ar ei liniau o’i flaen. “Athro da,” meddai, “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti’n fy ngalw i’n dda?” meddai Iesu, “Onid Duw ydy’r unig un sy’n dda? Ti’n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid llofruddio, paid godinebu, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, paid twyllo, gofala am dy dad a dy fam.’ ” Atebodd y dyn, “Athro, dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd ers pan o’n i’n fachgen ifanc.” Roedd Iesu wedi hoffi’r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn. Dyma Iesu’n troi at ei ddisgyblion a dweud, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!” Roedd y disgyblion wedi’u syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! Mae’n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Marc 10:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ” Meddai yntau wrtho, “Athro, yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid.” Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, “Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi.” Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer. Edrychodd Iesu o'i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!” Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw! Y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
Marc 10:17-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer. A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw! A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw! Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.