Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 10:1-25

Marc 10:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu. A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent. Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith.” Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi. Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.” Wedi mynd yn ôl i'r tŷ, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn. Ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi; ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.” Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy, ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.” A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt. Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.’ ” Meddai yntau wrtho, “Athro, yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid.” Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, “Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi.” Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer. Edrychodd Iesu o'i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!” Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw! Y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”

Marc 10:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna gadawodd Iesu’r fan honno, a mynd i Jwdea a’r ardal yr ochr draw i’r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi’n eu dysgu. Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio’i faglu drwy ofyn: “Ydy’r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?” Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?” “Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.” “Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno!” Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma’r disgyblion yn holi Iesu am hyn Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.” (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau’n godinebu.) Roedd pobl yn dod â’u plant bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a’u bendithio. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw. Roedd Iesu’n ddig pan welodd nhw’n gwneud hynny. “Gadewch i’r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy’n derbyn teyrnasiad Duw. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o’r rhai mae Duw’n teyrnasu yn eu bywydau.” Yna cododd y plant yn ei freichiau, rhoi ei ddwylo arnyn nhw a’u bendithio. Pan oedd Iesu ar fin gadael, dyma ddyn yn rhedeg ato a syrthio ar ei liniau o’i flaen. “Athro da,” meddai, “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti’n fy ngalw i’n dda?” meddai Iesu, “Onid Duw ydy’r unig un sy’n dda? Ti’n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid llofruddio, paid godinebu, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, paid twyllo, gofala am dy dad a dy fam.’ ” Atebodd y dyn, “Athro, dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd ers pan o’n i’n fachgen ifanc.” Roedd Iesu wedi hoffi’r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn. Dyma Iesu’n troi at ei ddisgyblion a dweud, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!” Roedd y disgyblion wedi’u syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! Mae’n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”

Marc 10:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd hwynt drachefn. A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi? A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw: Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu. A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd. Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer. A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw! A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw! Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.