Marc 1:9-15
Marc 1:9-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tua’r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen. Yr eiliad y daeth Iesu allan o’r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo’n agored a’r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n llwyr.” Yn syth wedyn dyma’r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i’r anialwch. Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwyllt o’i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano. Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw. “Mae’n amser!” meddai. “Mae’r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu’r newyddion da!”
Marc 1:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.” Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i'r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno. Wedi i Ioan gael ei garcharu daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud: “Y mae'r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.”
Marc 1:9-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen. Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen. A llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd. Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch. Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo. Ac ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw; A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl.