Marc 1:33-37
Marc 1:33-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd fel petai’r dref i gyd yno wrth y drws! Dyma Iesu’n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair. Y bore wedyn cododd Iesu’n gynnar iawn. Roedd hi’n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. Dyma Simon a’r lleill yn mynd i edrych amdano, ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw’n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!”
Marc 1:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod. Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo. Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano; ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.”
Marc 1:33-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.