Marc 1:29-34
Marc 1:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan. Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed; aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt. Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.
Marc 1:29-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw’n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw’n dweud wrth Iesu, ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a’i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi’n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Wrth i’r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi’u meddiannu gan gythreuliaid. Roedd fel petai’r dref i gyd yno wrth y drws! Dyma Iesu’n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
Marc 1:29-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.