Marc 1:23-45
Marc 1:23-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna’n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi’i feddiannu gan ysbryd drwg.) “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i’n dinistrio ni. Dw i’n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!” “Bydd ddistaw!” meddai Iesu’n ddig. “Tyrd allan ohono!” Dyma’r ysbryd drwg yn gwneud i’r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i’w gilydd, “Beth sy’n mynd ymlaen? Mae’r hyn mae’n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo’r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.” Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea. Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw’n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw’n dweud wrth Iesu, ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a’i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi’n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Wrth i’r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi’u meddiannu gan gythreuliaid. Roedd fel petai’r dref i gyd yno wrth y drws! Dyma Iesu’n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair. Y bore wedyn cododd Iesu’n gynnar iawn. Roedd hi’n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. Dyma Simon a’r lleill yn mynd i edrych amdano, ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw’n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!” Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i’r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi’r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.” Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl. Dyma ddyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o’i flaen, “Gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.” Yn llawn teimlad, dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” Dyma’r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu. Dyma Iesu’n rhybuddio’r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd: “Gwna’n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i’r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i’r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Ond dyma’r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!
Marc 1:23-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw, gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.” Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.” A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono. Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo.” Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea. Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan. Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed; aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt. Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod. Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo. Aeth Simon a'i gymdeithion i chwilio amdano; ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.” Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.” Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid. Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os mynni, gelli fy nglanhau.” A chan dosturio estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef. Ac wedi ei rybuddio'n llym gyrrodd Iesu ef ymaith ar ei union, a dweud wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yr hyn a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.” Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi'r hanes i gyd ar goedd a'i daenu ar led, fel na allai Iesu mwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.
Marc 1:23-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd, Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo. Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea. Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan. Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid. A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau. A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef. Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man; Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.