Marc 1:21-34
Marc 1:21-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i'r synagog a dechrau dysgu. Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw, gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.” Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.” A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono. Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo.” Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea. Ac yna, wedi dod allan o'r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan. Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed; aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt. Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws. Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.
Marc 1:21-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma nhw’n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i’r synagog a dechrau dysgu’r bobl. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i’r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno. Yna’n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi’i feddiannu gan ysbryd drwg.) “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i’n dinistrio ni. Dw i’n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!” “Bydd ddistaw!” meddai Iesu’n ddig. “Tyrd allan ohono!” Dyma’r ysbryd drwg yn gwneud i’r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i’w gilydd, “Beth sy’n mynd ymlaen? Mae’r hyn mae’n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo’r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.” Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea. Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw’n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw’n dweud wrth Iesu, ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a’i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi’n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Wrth i’r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi’u meddiannu gan gythreuliaid. Roedd fel petai’r dref i gyd yno wrth y drws! Dyma Iesu’n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
Marc 1:21-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd, Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. Yna wedi i’r ysbryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo. Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea. Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.