Marc 1:21-22
Marc 1:21-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma nhw’n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i’r synagog a dechrau dysgu’r bobl. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i’r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Marc 1:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i'r synagog a dechrau dysgu. Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Marc 1:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.