Marc 1:16-20
Marc 1:16-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan oedd Iesu’n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi’n taflu rhwyd i’r llyn. “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi’n bysgotwyr sy’n dal pobl yn lle pysgod.” Heb oedi dyma’r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi’n trwsio eu rhwydi yn eu cwch. Dyma Iesu’n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw’n gadael eu tad Sebedeus gyda’r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.
Marc 1:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent. Dywedodd Iesu wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” A gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef. Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; yr oeddent wrthi'n cyweirio'r rhwydau yn y cwch. Galwodd hwythau ar unwaith, a chan adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda'r gweision, aethant ymaith ar ei ôl ef.
Marc 1:16-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.) A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. Ac yn ebrwydd, gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef. Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau. Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.