Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 7:1-20

Micha 7:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf, ac fel lloffion cynhaeaf gwin; nid oes grawnwin i'w bwyta, na'r ffigys cynnar a flysiaf. Darfu am y ffyddlon o'r tir, ac nid oes neb uniawn ar ôl; y maent i gyd yn llechu i ladd, a phawb yn hela'i gilydd â rhwyd. Y mae eu dwylo'n fedrus mewn drygioni, y swyddog yn codi tâl a'r barnwr yn derbyn gwobr, a'r uchelwr yn mynegi ei ddymuniad llygredig. Y maent yn gwneud i'w cymwynas droi fel mieri, a'u huniondeb fel drain. Daeth y dydd y gwyliwyd amdano, dydd cosb; ac yn awr y bydd yn ddryswch iddynt. Peidiwch â rhoi hyder mewn cymydog, nac ymddiried mewn cyfaill; gwylia ar dy enau rhag gwraig dy fynwes. Oherwydd y mae'r mab yn amharchu ei dad, y ferch yn gwrthryfela yn erbyn ei mam, y ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith; a gelynion rhywun yw ei dylwyth ei hun. Ond edrychaf fi at yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth; gwrendy fy Nuw arnaf. Paid â llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn; er imi syrthio, fe godaf. Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch, bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi. Dygaf ddig yr ARGLWYDD—oherwydd pechais yn ei erbyn— nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid, nes iddo fy nwyn allan i oleuni, ac imi weld ei gyfiawnder. Yna fe wêl fy ngelyn a chywilyddio— yr un a ddywedodd wrthyf, “Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?” Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno, pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd. Bydd yn ddydd adeiladu dy furiau, yn ddydd ehangu terfynau, yn ddydd pan ddônt atat o Asyria hyd yr Aifft, ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates, o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. Ond bydd y ddaear yn ddiffaith, oherwydd ei thrigolion; dyma ffrwyth eu gweithredoedd. ARGLWYDD Bugeilia dy bobl â'th ffon, y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti, sy'n trigo ar wahân mewn coedwig yng nghanol Carmel; porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt. Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft, fe ddangosaf iddynt ryfeddodau. Fe wêl y cenhedloedd, a chywilyddio er eu holl rym; rhônt eu dwylo ar eu genau a bydd eu clustiau'n fyddar; llyfant y llwch fel neidr, fel ymlusgiaid y ddaear; dônt yn grynedig allan o'u llochesau, a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw, ac ofnant di. Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd, ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth? Nid yw'n dal ei ddig am byth, ond ymhyfryda mewn trugaredd. Bydd yn tosturio wrthym eto, ac yn golchi ein camweddau, ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr. Byddi'n ffyddlon i Jacob ac yn deyrngar i Abraham, fel y tyngaist i'n tadau yn y dyddiau gynt.

Micha 7:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i mor ddigalon! Dw i fel rhywun yn chwilio’n daer am ffrwyth ar ôl i’r ffrwythau haf a’r grawnwin gael eu casglu. Does dim un swp o rawnwin ar ôl, na’r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw. Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad! Mae’r bobl onest i gyd wedi mynd. Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall; maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i’w gilydd. Maen nhw’n rai da am wneud drwg! – mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib; does ond rhaid i’r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiau a byddan nhw’n dyfeisio rhyw sgam i’w bodloni. Mae’r gorau ohonyn nhw fel drain, a’r mwya gonest fel llwyn o fieri. Mae’r gwylwyr wedi’ch rhybuddio; mae dydd y farn yn dod ar frys – mae anhrefn llwyr ar ei ffordd! Peidiwch trystio neb! Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau, na hyd yn oed eich gwraig – peidiwch dweud gair wrthi hi! Fydd mab ddim yn parchu ei dad, a bydd merch yn herio’i mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith – eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf! Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help. Dw i’n disgwyl yn hyderus am y Duw sy’n achub. Dw i’n gwybod y bydd e’n gwrando arna i. ARGLWYDD “Peidiwch dathlu’n rhy fuan, elynion! Er fy mod wedi syrthio, bydda i’n codi eto. Er bod pethau’n dywyll ar hyn o bryd, bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi. Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDD am fy mod wedi pechu yn ei erbyn. Ond yna bydd e’n ochri gyda mi ac yn ennill yr achos ar fy rhan. Bydd yn fy arwain i allan i’r golau; bydda i’n cael fy achub ganddo. Bydd fy ngelynion yn gweld hyn, a byddan nhw’n profi siom ac embaras. Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw, y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’, yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.” Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! – diwrnod i ailadeiladu dy waliau; diwrnod i ehangu dy ffiniau! Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat yr holl ffordd o Asyria i drefi’r Aifft, o’r Aifft i afon Ewffrates, o un arfordir i’r llall, ac o’r mynyddoedd pellaf. Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith, o achos y ffordd mae pobl wedi byw. ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl, dy braidd arbennig dy hun; y rhai sy’n byw’n unig mewn tir llawn drysni tra mae porfa fras o’u cwmpas. Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead, fel roedden nhw’n gwneud ers talwm. Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau, fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft! Bydd y gwledydd yn gweld hyn, a bydd eu grym yn troi’n gywilydd. Byddan nhw’n sefyll yn syn, ac fel petaen nhw’n clywed dim! Byddan nhw’n llyfu’r llwch fel nadroedd neu bryfed yn llusgo ar y llawr. Byddan nhw’n ofni am eu bywydau, ac yn crynu wrth ddod allan o’u cuddfannau i dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw. Oes duw tebyg i ti? – Na! Ti’n maddau pechod ac yn anghofio gwrthryfel y rhai sydd ar ôl o dy bobl. Ti ddim yn digio am byth; ti wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael. Byddi’n tosturio wrthon ni eto. Byddi’n delio gyda’n drygioni, ac yn taflu’n pechodau i waelod y môr. Byddi’n ffyddlon i bobl Jacob ac yn dangos dy drugaredd i blant Abraham – fel gwnest ti addo i’n hynafiaid amser maith yn ôl.

Micha 7:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i’w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf. Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd. I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a’r barnwr am wobr; a’r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef. Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a’th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt. Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes. Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ. Am hynny mi a edrychaf ar yr ARGLWYDD, disgwyliaf wrth DDUW fy iachawdwriaeth: fy NUW a’m gwrendy. Na lawenycha i’m herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr ARGLWYDD a lewyrcha i mi. Dioddefaf ddig yr ARGLWYDD, canys pechais i’w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a’m dwg allan i’r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. A’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd a’i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a’i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd. Portha dy bobl â’th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau. Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau: arswydant rhag yr ARGLWYDD ein DUW ni, ac o’th achos di yr ofnant. Pa DDUW sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.