Micha 6:1-5
Micha 6:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Codwch i amddiffyn eich hunain o flaen y bryniau a’r mynyddoedd! Chi fynyddoedd a sylfeini’r ddaear gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.” (Mae’n dwyn achos yn erbyn ei bobl. Mae ganddo ddadl i’w setlo gydag Israel.) “Fy mhobl, beth wnes i o’i le? Beth wnes i i’ch diflasu chi? Atebwch! Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Anfonais Moses i’ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e. Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud, a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb. Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal – i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi’ch trin yn deg.”
Micha 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD: “Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd, a bydded i'r bryniau glywed dy lais. Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd, chwi gadarn sylfeini'r ddaear; oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl, ac fe'i dadlau yn erbyn Israel. O fy mhobl, beth a wneuthum i ti? Sut y blinais di? Ateb fi. Dygais di i fyny o'r Aifft, gwaredais di o dŷ'r caethiwed, a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain. O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab, a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef, a hefyd y daith o Sittim i Gilgal, er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.”
Micha 6:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.