Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 6:1-16

Micha 6:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Codwch i amddiffyn eich hunain o flaen y bryniau a’r mynyddoedd! Chi fynyddoedd a sylfeini’r ddaear gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.” (Mae’n dwyn achos yn erbyn ei bobl. Mae ganddo ddadl i’w setlo gydag Israel.) “Fy mhobl, beth wnes i o’i le? Beth wnes i i’ch diflasu chi? Atebwch! Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Anfonais Moses i’ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e. Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud, a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb. Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal – i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi’ch trin yn deg.” Sut alla i dalu i’r ARGLWYDD? Beth sydd gen i i’w gynnig wrth blygu i addoli y Duw mawr? Ydy aberthau i’w llosgi yn ddigon? Y lloi gorau i’w llosgi’n llwyr? Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio, neu afonydd diddiwedd o olew olewydd? Ddylwn i aberthu fy mab hynaf yn dâl am wrthryfela? – rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod? Na, mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw. ARGLWYDD “Gwrandwch!” Mae’r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem – (Mae’n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.) “Gwrandwch lwyth Jwda a’r rhai sy’n casglu yn y ddinas! Ydw i’n mynd i anwybyddu’r trysorau a gawsoch drwy dwyll, a’r mesur prin, sy’n felltith? Fyddai’n iawn i mi oddef y clorian sy’n dweud celwydd, a’r bag o bwysau ysgafn? Mae’r cyfoethog yn treisio’r tlawd, a’r bobl i gyd yn dweud celwydd – twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw! Dw i’n mynd i’ch taro a’ch anafu’n ddifrifol, cewch eich dinistrio am bechu. Byddwch yn bwyta, ond byth yn cael digon. Bydd eich plentyn yn marw’n y groth, cyn cael ei eni; a bydda i’n gadael i’r cleddyf ladd y rhai sy’n cael eu geni! Byddwch yn plannu cnydau ond byth yn medi’r cynhaeaf. Byddwch yn gwasgu’r olewydd ond gewch chi ddim defnyddio’r olew. Byddwch yn sathru’r grawnwin, ond gewch chi ddim yfed y gwin. Dych chi’n cadw deddfau drwg y Brenin Omri, ac efelychu arferion drwg y Brenin Ahab! – a dilyn eu polisïau pwdr. Felly bydd rhaid i mi eich dinistrio chi, a bydd pobl yn eich gwawdio ac yn gwneud sbort am eich pen.”

Micha 6:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD: “Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd, a bydded i'r bryniau glywed dy lais. Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd, chwi gadarn sylfeini'r ddaear; oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl, ac fe'i dadlau yn erbyn Israel. O fy mhobl, beth a wneuthum i ti? Sut y blinais di? Ateb fi. Dygais di i fyny o'r Aifft, gwaredais di o dŷ'r caethiwed, a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain. O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab, a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef, a hefyd y daith o Sittim i Gilgal, er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.” Â pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD, a phlygu gerbron y Duw uchel? A ddof ger ei fron â phoethoffrymau, neu â lloi blwydd? A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddod neu ar fyrddiwn o afonydd olew? A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd, fy mhlant fy hun am fy mhechod? Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw. Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas— y mae llwyddiant o ofni ei enw: “Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas. A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr, a'r mesur prin sy'n felltigedig? A oddefaf gloriannau twyllodrus, neu gyfres o bwysau ysgafn? Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion yn dweud celwydd, a thafodau ffals yn eu genau. Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo, i'th anrheithio am dy bechodau: byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni, a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog; byddi'n cilio, ond heb ddianc, a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf; byddi'n hau, ond heb fedi, yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew, a gwinwydd, ond heb yfed gwin. Cedwaist ddeddfau Omri, a holl weithredoedd tŷ Ahab, a dilynaist eu cynghorion, er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith a'th drigolion yn gyff gwawd; a dygwch ddirmyg y bobl.”

Micha 6:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD. Â pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid? A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid? Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th DDUW? Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd. A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r mesur prin, peth sydd ffiaidd? A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf. Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win. Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.