Micha 4:1-5
Micha 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD wedi ei osod ar ben y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r bobloedd ato, a daw cenhedloedd lawer, a dweud, “Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob, er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.” Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd, ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell; byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach; a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn. Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd. Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw, ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.
Micha 4:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi’i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill a’i godi’n uwch na’r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd e’n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw’n curo’u cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo’r peth! Tra mae’r gwledydd o’n cwmpas yn dilyn eu duwiau eu hunain, byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd!
Micha 4:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a’i llefarodd. Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd.