Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 4:1-13

Micha 4:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD wedi ei osod ar ben y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r bobloedd ato, a daw cenhedloedd lawer, a dweud, “Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob, er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.” Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd, ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell; byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach; a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn. Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd. Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw, ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe gasglaf y cloff, a chynnull y rhai a wasgarwyd a'r rhai a gosbais; a gwnaf weddill o'r cloff, a chenedl gref o'r gwasgaredig, a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion yn awr a hyd byth. A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion, i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu, y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.” “Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel? Onid oes gennyt frenin? A yw dy gynghorwyr wedi darfod, nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?” “Gwinga a gwaedda, ferch Seion, fel gwraig yn esgor, oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas ac yn byw yn y maes agored; byddi'n mynd i Fabilon. Yno fe'th waredir; yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub o law d'elynion.” “Yn awr y mae llawer o genhedloedd wedi ymgasglu yn dy erbyn, ac yn dweud, ‘Haloger hi, a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.’ Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD, nac yn deall ei fwriad, oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu. Cod i ddyrnu, ferch Seion, oherwydd gwnaf dy gorn o haearn a'th garnau o bres, ac fe fethri bobloedd lawer; yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw, a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear.”

Micha 4:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi’i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill a’i godi’n uwch na’r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd e’n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw’n curo’u cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo’r peth! Tra mae’r gwledydd o’n cwmpas yn dilyn eu duwiau eu hunain, byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd! “Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “bydda i’n galw’r rhai cloff, ac yn casglu’r rhai sydd ar chwâl, a’r rhai wnes i eu hanafu. Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl; a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi’n genedl gref. Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!” A byddi di – y tŵr i wylio’r praidd, sef dinas gaerog pobl Seion – yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl. Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem. Ond nawr, pam wyt ti’n gweiddi a sgrechian? Oes gen ti ddim brenin i dy helpu? Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw? Ai dyna pam ti’n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi? Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion, fel gwraig mewn poen wrth gael babi! Bydd rhaid i chi adael y ddinas a gwersylla yng nghefn gwlad, ar eich ffordd i Babilon. Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub, a’ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn. Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer wedi casglu i ymladd yn dy erbyn. “Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw. “Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!” Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD! Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e – i’w casglu nhw fel gwenith i’r llawr dyrnu! Tyrd i ddyrnu, ferch Seion! Dw i’n mynd i roi cyrn o haearn a charnau o bres i ti; a byddi’n sathru llawer o wledydd. Byddi’n rhoi’r ysbail i gyd i’r ARGLWYDD, ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.

Micha 4:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a’i llefarodd. Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd. Yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a’r hon a ddrygais: A gwnaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a’r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth. A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem. Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor. Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion. Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. Ond ni wyddant hwy feddyliau yr ARGLWYDD, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu. Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r ARGLWYDD eu helw hwynt, a’u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear.