Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 3:1-12

Micha 3:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dywedais, “Clywch, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel! Oni ddylech chwi wybod beth sy'n iawn? Yr ydych yn casáu daioni ac yn caru drygioni, yn rhwygo'u croen oddi ar fy mhobl, a'u cnawd oddi ar eu hesgyrn; yr ydych yn bwyta'u cnawd, yn blingo'u croen oddi amdanynt, yn dryllio'u hesgyrn, yn eu malu fel cnawd i badell ac fel cig i grochan. Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD, ond ni fydd yn eu hateb; bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw, am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn, y rhai os cânt rywbeth i'w fwyta sy'n cyhoeddi heddwch, ond pan na rydd neb ddim iddynt sy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn: “Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch, ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth; bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi, a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas.” Bydd y gweledyddion mewn gwarth a'r dewiniaid mewn cywilydd; byddant i gyd yn gorchuddio'u genau, am nad oes ateb oddi wrth Dduw. Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grym ac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth, i gyhoeddi ei drosedd i Jacob, a'i bechod i Israel. Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel, chwi sy'n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi pob uniondeb, yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaed a Jerwsalem trwy dwyll. Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl, ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr, ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian; ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud, “Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg? Ni ddaw drwg arnom.” Am hynny, o'ch achos chwi bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.

Micha 3:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dwedais, “Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy’n arwain pobl Israel. Dylech wybod beth ydy cyfiawnder! Ond dych chi’n casáu’r da ac yn caru’r drwg! Dych chi’n blingo fy mhobl yn fyw, ac yn ymddwyn fel canibaliaid! Dych chi’n bwyta cnawd fy mhobl, yn eu blingo nhw’n fyw a malu eu hesgyrn. Torri eu cyrff yn ddarnau fel cig i’w daflu i’r crochan.” Ryw ddydd byddan nhw’n galw ar yr ARGLWYDD am help, ond fydd e ddim yn ateb. Bydd e’n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi: “Dych chi’n camarwain fy mhobl! Dych chi’n addo heddwch am bryd o fwyd, ond os na gewch chi’ch talu dych chi’n bygwth rhyfel! Felly bydd hi’n nos arnoch chi, heb weledigaeth – byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim. Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi, a’ch dydd wedi dod i ben! Bydd cywilydd ar y proffwydi, a bydd y dewiniaid wedi drysu. Fyddan nhw’n dweud dim, am fod Duw ddim yn ateb.” Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD ac yn credu’n gryf mewn cyfiawnder. Dw i’n herio Jacob am ei wrthryfel, ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod. Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy’n arwain pobl Israel – chi sy’n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi’r gwir. Dych chi’n adeiladu Seion drwy drais, a Jerwsalem drwy lygredd a thwyll. Mae’r barnwyr yn derbyn breib, yr offeiriaid yn dysgu am elw, a’r proffwydi’n dehongli am dâl – tra’n honni pwyso ar yr ARGLWYDD! “Mae’r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw. “Does wir ddim dinistr i ddod!” Felly chi sydd ar fai! Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae’r deml yn sefyll yn goedwig wedi tyfu’n wyllt.

Micha 3:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn? Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a’u cig oddi wrth eu hesgyrn; Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a’u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell. Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â’u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn. Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt. Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd DUW ateb. Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a’i bechod i Israel. Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb. Adeiladu Seion y maent â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd. Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; eto wrth yr ARGLWYDD yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr ARGLWYDD i’n plith? ni ddaw drwg arnom. Am hynny o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.