Micha 2:1-11
Micha 2:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwae nhw, y rhai sy’n dyfeisio drygioni a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. Wedyn codi gyda’r wawr i wneud y drwg – maen nhw’n gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw’n cymryd y tir maen nhw’i eisiau, ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl. Maen nhw’n cipio cartrefi drwy dwyll a thrais ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill. Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i’n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma. Fydd dim modd i chi ddianc! Dim mwy o swancio i chi! – mae pethau’n mynd i fod yn ddrwg! Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi drwy ganu galarnad i chi’n sbeitlyd – ‘Mae ar ben arnon ni! Mae ein tir yn cael ei werthu! Mae Duw wedi cymryd y cwbl, a rhoi’n tir i fradwyr!’” Felly fydd neb yn mesur y tir eto i chi gael siâr ohono gyda phobl yr ARGLWYDD. “Stopia falu awyr!” medden nhw’n lloerig. “Ddylai neb siarad fel yna! Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.” Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? – “Dydy’r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer. Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!” “Mae’r pethau da dw i’n eu haddo yn digwydd i’r rhai sy’n byw yn iawn. Ond yn ddiweddar mae fy mhobl wedi codi yn fy erbyn fel gelyn. Dych chi’n dwyn y gôt a’r crys oddi ar bobl ddiniwed sy’n pasio heibio fel milwyr yn dod adre o ryfel. Dych chi’n gyrru gweddwon o’u cartrefi clyd, a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth. Felly symudwch! I ffwrdd â chi! Does dim lle i chi orffwys yma! Dych chi wedi llygru’r lle, ac wedi’i ddifetha’n llwyr! Petai rhywun yn dod heibio yn malu awyr a thwyllo, ‘Dw i’n addo y cewch chi joio digonedd o win a chwrw!’ – byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!
Micha 2:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed, ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau, ac ar doriad dydd yn ei wneud, cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu. Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio, a thai, ac yn eu meddiannu; y maent yn treisio perchennog a'i dŷ, dyn a'i etifeddiaeth. Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg na all eich gwarrau ei osgoi; ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth, oherwydd bydd yn amser drwg. Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch, a chenir galargan chwerw a dweud, ‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr; y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo. Sut y gall neb adfer i mi ein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ” Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbren yng nghynulleidfa'r ARGLWYDD. Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo; peidied neb â phroffwydo am hyn; ni ddaw cywilydd arnom. A ddywedir hyn am dŷ Jacob? A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd? Ai ei waith ef yw hyn? Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daioni i'r sawl sy'n cerdded yn uniawn? ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelyn yn cipio ymaith fantell yr heddychol, ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal. Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol, ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth. Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi, oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon. Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud, “Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’ câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”
Micha 2:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ar eu dwylo. Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a’u dygant: gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ, dyn a’i etifeddiaeth. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw. Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd. Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD. Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd. O yr hon a elwir Tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau les i’r neb a rodio yn uniawn? Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda’r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel. Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth. Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost. Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i’r bobl hyn.