Micha 1:8-16
Micha 1:8-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna pam dw i’n galaru a nadu, a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau; yn udo’n uchel fel siacaliaid, a sgrechian cwyno fel cywion estrys. Fydd salwch Samaria ddim yn gwella! Mae wedi lledu i Jwda – mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl yn Jerwsalem wedi dal y clefyd! ‘Peidiwch dweud am y peth yn Gath!’ Peidiwch crio rhag iddyn nhw’ch clywed chi! Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch. Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio yn noeth ac mewn cywilydd. Bydd pobl Saänan yn methu symud, a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru – fydd hi ddim yn dy helpu eto. Bydd pobl Maroth yn aflonydd wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd na’r difrod mae’r ARGLWYDD wedi’i anfon, ac sy’n gwasgu ar giatiau Jerwsalem. Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau, bobl Lachish! Chi wnaeth wrthryfela fel Israel ac arwain pobl Seion i bechu! Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél wrth Moresheth-gath, a bydd tai Achsib yn siomi – bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel. Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref, a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto. Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru am y plant rwyt ti’n dotio atyn nhw. Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur, am fod y gelyn yn mynd i’w cymryd nhw’n gaeth.
Micha 1:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hyn y galaraf ac yr wylaf, a mynd yn noeth a heb esgidiau; galarnadaf fel y siacal, a llefain fel tylluanod yr anialwch, am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf; oherwydd daeth hyd at Jwda, a chyrraedd at borth fy mhobl, hyd at Jerwsalem. Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath, a pheidiwch ag wylo yn Baca; yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch. Ewch ymlaen, drigolion Saffir; onid mewn noethni a chywilydd yr â trigolion Saanan allan? Galar sydd yn Beth-esel, a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi. Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth, oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD ddod hyd at borth Jerwsalem. Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau, drigolion Lachis; chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion, ac ynoch chwi y caed troseddau Israel. Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath; y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel. Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa, a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam. Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel, am y plant a hoffaist; gwna dy hun yn foel fel eryr, am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.
Micha 1:8-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan. Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem. Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra. Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan. Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem. Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel. Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel. Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel. Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.