Mathew 9:9-10
Mathew 9:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o’r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl. Yn nes ymlaen aeth Iesu a’i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o’r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain i’r parti, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‘bechaduriaid’.
Mathew 9:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth fynd heibio oddi yno gwelodd Iesu ddyn a elwid Mathew yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod ac yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion.
Mathew 9:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a’i canlynodd ef. A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion.