Mathew 9:36-38
Mathew 9:36-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i’r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i’w feysydd.”
Mathew 9:36-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhaeaf.”
Mathew 9:36-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail. Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.