Mathew 9:27-30
Mathew 9:27-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi’n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!” Ar ôl mynd i mewn i’r tŷ, dyma’r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi’n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw. Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi’i gredu sy’n bosib,” ac roedden nhw’n gallu gweld eto. Dyma Iesu’n eu rhybuddio’n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.”
Mathew 9:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth i Iesu fynd oddi yno dilynodd dau ddyn dall ef gan weiddi, “Trugarha wrthym ni, Fab Dafydd.” Wedi iddo ddod i'r tŷ daeth y deillion ato, a gofynnodd Iesu iddynt, “A ydych yn credu y gallaf wneud hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym, syr.” Yna cyffyrddodd â'u llygaid a dweud, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.” Agorwyd eu llygaid, a rhybuddiodd Iesu hwy yn llym, “Gofalwch na chaiff neb wybod.”
Mathew 9:27-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.