Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 9:18-31

Mathew 9:18-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o’r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o’i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.” Cododd Iesu a mynd gyda’r dyn, ac aeth y disgyblion hefyd. Dyna pryd y daeth rhyw wraig oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd a sleifio i fyny y tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd yn meddwl, “Petawn i ond yn llwyddo i gyffwrdd ei glogyn ca i fy iacháu.” Trodd Iesu a’i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, ferch annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” A’r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu. Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ’r dyn, roedd tyrfa swnllyd o bobl yn galaru, a rhai yn canu pibau. “Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy’r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu’n anfon y dyrfa allan o’r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed. Aeth yr hanes am hyn ar led drwy’r ardal i gyd. Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi’n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!” Ar ôl mynd i mewn i’r tŷ, dyma’r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi’n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw. Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi’i gredu sy’n bosib,” ac roedden nhw’n gallu gweld eto. Dyma Iesu’n eu rhybuddio’n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.” Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw’n dweud wrth bawb drwy’r ardal i gyd amdano.

Mathew 9:18-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi. A’r Iesu a gyfododd, ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion. (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef, iach fyddaf. Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a’th iachaodd. A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.) A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu, Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a’i gwatwarasant ef. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a’r llances a gyfododd. A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno. A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.