Mathew 9:14-15
Mathew 9:14-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma ddisgyblion Ioan yn dod at Iesu a gofyn iddo, “Dŷn ni a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?” Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda’r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw’n ymprydio bryd hynny.
Mathew 9:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth disgyblion Ioan ato a dweud, “Pam yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio llawer, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant.
Mathew 9:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.