Mathew 9:1-3
Mathew 9:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n mynd i mewn i gwch a chroesi’r llyn yn ôl i’w dref ei hun. A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi’i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi’u maddau.” Roedd rhai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae’r dyn yma’n cablu!”
Mathew 9:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r môr a dod i'w dref ei hun. A dyma hwy'n dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau.” A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, “Y mae hwn yn cablu.”
Mathew 9:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun. Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.