Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8:18-34

Mathew 8:18-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw. Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, “Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei.” Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” Ond meddai Iesu wrtho, “Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.” Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef. A dyma storm fawr yn codi ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu. Daethant ato a'i ddeffro a dweud, “Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom.” A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr. Synnodd y bobl a dweud, “Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo.” Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno. A dyma hwy'n gweiddi, “Beth sydd a fynni di â ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?” Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori. Ymbiliodd y cythreuliaid arno, “Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch.” Meddai ef wrthynt, “Ewch.” Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r môr, a threngi yn y dyfroedd. Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid. A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod â Iesu, ac wedi ei weld, yn erfyn arno symud o'u gororau.

Mathew 8:18-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan welodd Iesu’r dyrfa o’i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw’r llyn. Yna dyma un o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i’n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di’n mynd.” Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” Dyma un arall o’i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw.” Felly i ffwrdd â Iesu i’r cwch, a’i ddisgyblion ar ei ôl. Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu’n drwm drwy’r cwbl! Dyma’r disgyblion yn mynd ato mewn panig a’i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni’n mynd i foddi!” “Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae’ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu’r gwynt a’r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel. Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth wnawn ni o’r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r tonnau yn ufuddhau iddo!” Ar ôl iddo groesi’r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i’w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio’r ffordd honno. Dyma nhw’n gweiddi’n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i’n poenydio ni cyn i’r amser i hynny digwydd ddod?” Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw, a dyma’r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i’r genfaint o foch acw os wyt ti’n mynd i’n bwrw ni allan.” “Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw ac i mewn i’r moch. A’r peth nesa, dyma’r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn. Dyma’r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i’r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i’r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid. Yna dyma pawb yn dod allan o’r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw’n pwyso arno i adael eu hardal.

Mathew 8:18-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw. Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo! Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. A’r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.