Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 7:13-27

Mathew 7:13-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Ewch i mewn drwy’r fynedfa gul. Oherwydd mae’r fynedfa i’r ffordd sy’n arwain i ddinistr yn llydan. Mae’n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. Ond mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi. “Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi’r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid. Y ffordd i’w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. Dydy grawnwin ddim yn tyfu ar ddrain, na ffigys ar ysgall. Felly lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy’r ffrwyth yn ddrwg mae’r goeden yn wael. Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a’i llosgi. Felly y ffordd i nabod y proffwydi ffug ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. “Fydd pawb sy’n fy ngalw i’n ‘Arglwydd’ ddim yn dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy’n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn. Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni’n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’ Ond bydda i’n dweud wrthyn nhw’n blaen, ‘Dw i erioed wedi’ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’ “Felly dyma sut bobl ydy’r rhai sy’n gwrando arna i ac yna’n gwneud beth dw i’n ddweud. Maen nhw fel dyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar graig solet. Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. Ond mae pawb sy’n gwrando arna i heb wneud beth dw i’n ddweud yn debyg i ddyn dwl sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod! Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu’n llwyr.”

Mathew 7:13-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael. “Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. Ai oddi ar ddrain y mae casglu grawnwin neu oddi ar ysgall ffigys? Felly y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da, a choeden wael yn dwyn ffrwyth drwg. Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da. Y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân. Felly, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. “Nid pawb sy'n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?’ Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, ‘Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.’ “Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig. Disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni syrthiodd, am ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig. A phob un sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof a heb eu gwneud, fe'i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod. A disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a dirfawr oedd ei gwymp.”

Mathew 7:13-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth, a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi: Oblegid cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi. Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. Oherwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd. Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig. A phob un a’r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod: A’r glaw a ddisgynnodd, a’r llifddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.