Mathew 6:33-34
Mathew 6:33-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Rhanna
Darllen Mathew 6Mathew 6:33-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.
Rhanna
Darllen Mathew 6Mathew 6:33-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.
Rhanna
Darllen Mathew 6