Mathew 6:22-23
Mathew 6:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni. Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!
Rhanna
Darllen Mathew 6Mathew 6:22-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae’n dywyll go iawn arnat ti!
Rhanna
Darllen Mathew 6Mathew 6:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau. Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!
Rhanna
Darllen Mathew 6