Mathew 6:19-23
Mathew 6:19-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch casglu trysorau i chi’ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â’u dwyn. Casglwch drysorau i chi’ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd. Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di. “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae’n dywyll go iawn arnat ti!
Mathew 6:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. “Y llygad yw cannwyll y corff; felly os bydd dy lygad yn hael, bydd dy gorff yn llawn goleuni. Ond os bydd dy lygad yn drachwantus, bydd dy gorff yn llawn tywyllwch. Ac os yw'r goleuni sydd ynot yn dywyllwch, mor fawr yw'r tywyllwch!
Mathew 6:19-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau. Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!