Mathew 5:44-45
Mathew 5:44-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi! Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i’ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna’r math o beth mae e’n ei wneud – mae’n gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim.
Mathew 5:44-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid; felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn.
Mathew 5:44-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.