Mathew 5:34-37
Mathew 5:34-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dw i’n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i’r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw; nac i’r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr. Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i’ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu’n wyn. Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy’n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.
Mathew 5:34-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw; nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw. Paid â thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu. Ond boed eich ‘ie’ yn ‘ie’, a'ch ‘nage’ yn ‘nage’; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.
Mathew 5:34-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.