Mathew 5:31-32
Mathew 5:31-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod dyn sy’n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy’n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.
Mathew 5:31-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dywedwyd hefyd, ‘Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.
Mathew 5:31-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.