Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 5:3-13

Mathew 5:3-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro. Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear. Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr. Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain. Mae’r rhai sydd â chalon bur wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael gweld Duw. Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw. Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi’ch bendithio’n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath! “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n dda i ddim ond i’w daflu i ffwrdd a’i sathru dan draed.