Mathew 5:27-30
Mathew 5:27-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy’n llygadu gwraig a’i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi. Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd. Mae’n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith. Mae’n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Mathew 5:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Na odineba.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon. Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern. Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
Mathew 5:27-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.