Mathew 5:21-26
Mathew 5:21-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ (ac y bydd pawb sy’n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu). Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod y sawl sy’n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw’n idiot, mae’n atebol i’r Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern. “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau’n iawn gyda nhw’n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn. “Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i’r llys, setla’r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy’n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i’r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar? Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.
Mathew 5:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, ‘Y ffŵl’, bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern. Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno'n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf â'th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm. Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar. Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf.
Mathew 5:21-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.