Mathew 5:2-16
Mathew 5:2-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a dechreuodd eu dysgu, a dweud: “Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro. Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear. Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr. Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain. Mae’r rhai sydd â chalon bur wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael gweld Duw. Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw. Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi’ch bendithio’n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath! “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n dda i ddim ond i’w daflu i ffwrdd a’i sathru dan draed. “Chi ydy’r golau sydd yn y byd. Mae’n amhosib cuddio dinas sydd wedi’i hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i’w gosod o dan fowlen! Na, dych chi’n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. Dyna sut dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi’n eu gwneud.
Mathew 5:2-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn: “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon. Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw. Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi. “Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed. Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Mathew 5:2-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi. Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.