Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 5:1-48

Mathew 5:1-48 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato, a dechreuodd eu dysgu, a dweud: “Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro. Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear. Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr. Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain. Mae’r rhai sydd â chalon bur wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael gweld Duw. Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw. Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn wedi’u bendithio’n fawr, oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi’ch bendithio’n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath! “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n dda i ddim ond i’w daflu i ffwrdd a’i sathru dan draed. “Chi ydy’r golau sydd yn y byd. Mae’n amhosib cuddio dinas sydd wedi’i hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i’w gosod o dan fowlen! Na, dych chi’n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. Dyna sut dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi’n eu gwneud. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau’r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw’n ei olygu. Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o’r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a’r ddaear yn diflannu. Rhaid i’r cwbl ddigwydd gyntaf. Bydd pwy bynnag sy’n torri’r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy’n byw yn ufudd i’r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol. Dw i’n dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn byw’n fwy cyfiawn na’r Phariseaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o’r rhai mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ (ac y bydd pawb sy’n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu). Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod y sawl sy’n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw’n idiot, mae’n atebol i’r Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern. “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau’n iawn gyda nhw’n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn. “Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i’r llys, setla’r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy’n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i’r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar? Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog. “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy’n llygadu gwraig a’i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi. Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd. Mae’n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith. Mae’n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. “Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi fod dyn sy’n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy’n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu. “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi’i wneud i’r Arglwydd.’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i’r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw; nac i’r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr. Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i’ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu’n wyn. Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy’n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny. “Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu’n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo. Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy. Rho i bwy bynnag sy’n gofyn i ti am rywbeth, a phaid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti. “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’). Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi! Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i’ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna’r math o beth mae e’n ei wneud – mae’n gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim. Pam dylech chi gael gwobr am garu’r bobl hynny sy’n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy’n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny? Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi’n eu cyfarch, beth dych chi’n ei wneud sy’n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae’ch Tad nefol yn berffaith.

Mathew 5:1-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato. Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn: “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon. Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw'n blant i Dduw. Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. “Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i. Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi. “Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed. Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn. Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd. “Peidiwch â thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd. Am hynny, pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd. Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd. “Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, ‘Y ffŵl’, bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern. Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno'n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf â'th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm. Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar. Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Na odineba.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon. Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern. Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern. “Dywedwyd hefyd, ‘Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu. “Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na thynga lw twyllodrus’, a ‘Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw; nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw. Paid â thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu. Ond boed eich ‘ie’ yn ‘ie’, a'ch ‘nage’ yn ‘nage’; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd. Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd. Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddau. Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid; felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn. Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint â hynny? Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint â hynny? Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.

Mathew 5:1-48 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi. Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb. Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae. Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt. Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.