Mathew 28:1-7
Mathew 28:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna’n gynnar fore Sul, pan oedd y Saboth Iddewig drosodd, a hithau’n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a’r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd. Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o’r nefoedd a rholio’r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni. Roedd wyneb yr angel yn disgleirio’n llachar fel mellten, a’i ddillad yn wyn fel eira. Roedd y milwyr yn crynu gan ofn a dyma nhw’n llewygu. Yna dyma’r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i’n gwybod eich bod chi’n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio. Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna’n union beth ddwedodd fyddai’n digwydd. Dewch yma i weld lle bu’n gorwedd. Yna ewch ar frys a dweud wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae’n mynd i Galilea o’ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.”
Mathew 28:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd. A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno. Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira. Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw. Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: “Peidiwch chwi ag ofni,” meddai. “Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych. Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd. Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Dyna fy neges i chwi.”
Mathew 28:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.