Mathew 27:50-56
Mathew 27:50-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw. A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno. Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer. Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.” Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.
Mathew 27:50-56 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna ar ôl gweiddi’n uchel eto, dyma Iesu’n marw. Dyna’n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o’r top i’r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a’r creigiau yn hollti, a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol allan o’u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd lot fawr o bobl nhw.) Dyma’r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a’r milwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu, ac medden nhw, “Mab Duw oedd e, reit siŵr!” Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno’i angen. Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago ac Ioan (sef gwraig Sebedeus) hefyd.
Mathew 27:50-56 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.