Mathew 27:45-50
Mathew 27:45-50 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ganol dydd hyd dri o’r gloch y p’nawn aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd. Yna am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu’n uchel, “Eli! Eli! L’ma sabachtâni?” – sy’n golygu, “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Pan glywodd rhai o’r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae’n galw ar y proffwyd Elias am help.” Dyma un ohonyn nhw’n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a’i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe’i cododd ar flaen ffon i’w gynnig i Iesu ei yfed. Ond dyma’r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i’w achub.” Yna ar ôl gweiddi’n uchel eto, dyma Iesu’n marw.
Mathew 27:45-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.” Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.” Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw.
Mathew 27:45-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef. A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd.