Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 27:32-56

Mathew 27:32-56 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o’r enw Simon i’w cyfarfod, a dyma’r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. Ar ôl cyrraedd y lle sy’n cael ei alw yn Golgotha (sef ‘Lle y Benglog’), dyma nhw’n cynnig diod o win wedi’i gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed. Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw’n gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad. Wedyn dyma nhw’n eistedd i lawr i gadw golwg arno. Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU – BRENIN YR IDDEWON. Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo. Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy’n mynd i ddinistrio’r deml a’i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o’r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!” Roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am iddo ddod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn! Mae’n dweud ei fod e’n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e’n dweud ei fod yn Fab Duw?” Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a’i enllibio. O ganol dydd hyd dri o’r gloch y p’nawn aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd. Yna am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu’n uchel, “Eli! Eli! L’ma sabachtâni?” – sy’n golygu, “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Pan glywodd rhai o’r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae’n galw ar y proffwyd Elias am help.” Dyma un ohonyn nhw’n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a’i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe’i cododd ar flaen ffon i’w gynnig i Iesu ei yfed. Ond dyma’r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i’w achub.” Yna ar ôl gweiddi’n uchel eto, dyma Iesu’n marw. Dyna’n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o’r top i’r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a’r creigiau yn hollti, a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol allan o’u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd lot fawr o bobl nhw.) Dyma’r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a’r milwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu, ac medden nhw, “Mab Duw oedd e, reit siŵr!” Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno’i angen. Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago ac Ioan (sef gwraig Sebedeus) hefyd.

Mathew 27:32-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”, ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren, ac eisteddasant yno i'w wylio. Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.” Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau ac yn dweud, “Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes.” A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo. Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’ ” Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio. O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.” Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.” Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw. A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno. Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer. Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.” Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.

Mathew 27:32-56 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy. A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef. A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.