Mathew 27:3-5
Mathew 27:3-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu’n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â’r tri deg darn arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r arweinwyr. “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Sdim ots gynnon ni,” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.” Felly dyma Jwdas yn taflu’r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.
Mathew 27:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid. Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.” A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun.
Mathew 27:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd.