Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 27:11-26

Mathew 27:11-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yn y cyfamser, roedd Iesu’n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu. Ond pan oedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu’n gwrthod ateb. A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?” Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad. Doedd y peth yn gwneud dim sens i’r llywodraethwr. Adeg y Pasg roedd hi’n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa’n ei ddewis. Ar y pryd, roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o’r enw Barabbas. Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o’r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas? neu Iesu, yr un sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) Roedd Peilat yno’n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae’r dyn yna’n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.” Ond roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio’r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu’n cael ei ddienyddio. Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o’r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw’n ateb, “Barabbas!” “Felly, beth dw i i’w wneud gyda’r Iesu yma, sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi’i wneud o’i le?” Ond dyma nhw’n dechrau gweiddi’n uwch, “Croeshoelia fe!” Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa’n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy’n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy’n gyfrifol!” Dyma’r bobl yn ateb gyda’i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a’n plant!” Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.

Mathew 27:11-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.” A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?” Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw. Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas. Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef. A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, “Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef.” Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, “P'run o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?” “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.” Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.” Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.” Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

Mathew 27:11-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef. A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef. A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio.